Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Sinfonia Cymru ar Daith gyda Syr Bryn Terfel yr Hydref hwn!

Cyhoeddwyd Dydd Iau 11 Awst 2022

Rydym yn teimlo’n hynod gyffrous wrth rannu’r newyddion ein bod wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Cymro enwog Syr Bryn Terfel ar ran o’i daith yn y DU y mis Hydref hwn!

Fel yr esbonia Peter Bellingham, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru, nid dyma yw ein perfformiad cyntaf gyda Syr Bryn Terfel:

“Pleser o’r mwyaf yw cael ein gwahodd i berfformio gyda Bryn unwaith eto. Mae yna hanes cryf o gydweithio rhwng Sinfonia Cymru a Bryn, a hynny dros sawl blwyddyn, yn cynnwys perfformio yn ei gyngerdd pen blwydd yn 50 oed yn Neuadd Albert ychydig flynyddoedd yn ôl ac, yn fwy diweddar, yng Ngŵyl Abu Dhabi 2019, ar gyfer perfformiad cyngerdd o Tosca. Gwn y bydd y gerddorfa’n edrych mlaen at ailgynnau sawl cyfeillgarwch eto gyda’r daith hon.”

Bydd cerddorion dawnus Sinfonia Cymru’n perfformio gyda’r bas-baritôn o Gymru, Syr Bryn Terfel, mewn pedwar o’r naw lleoliad yn ystod y daith: Llandudno, Birmingham, Manceinion a Chaerdydd.

Yn ystod y daith ‘Songs and Arias’, gall y gynulleidfa ddisgwyl detholiad o hoff ariâu Syr Bryn Terfel o’i wahanol rannau ym myd yr opera, a rhai caneuon enwog o’r theatr gerdd a’r music hall. Mae’r rhestr chwarae’n cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth o Mozart i Wagner a cherddoriaeth wych o Gymru.

Dywedodd Syr Bryn Terfel:

“Rydw i wrth fy modd yn cael mynd ar daith i ganu fy hoff ‘Songs and Arias’ y mis Hydref hwn. Yn ogystal â pherfformio mewn reseital gyda fy ngwraig Hannah a’m ffrind, y gyfeilyddes Annabel Thwaite, ar gyfer rhai perfformiadau, mae’n bleser cael dod â’r arweinydd Gareth Jones a Sinfonia Cymru efo fi ar y daith. Rydw i’n edrych mlaen yn eiddgar at gyflwyno’r rhaglen hon i gynulleidfaoedd ledled y wlad.”

Trefwyd y daith gan Neil O’Brien Entertainment. Bydd Sinfonia Cymru’n perfformio yn y pedair canolfan isod, ac mae tocynnau ar werth yn awr ym mhob un o’r pedwar lleoliad.

‘SONGS AND ARIAS’ HYDREF 2022

Sadwrn 08 Hydref LLANDUDNO, Venue Cymru
Sul 09 Hydref BIRMINGHAM, Symphony Hall
Gwener 14 Hydref MANCEINION, Bridgewater Hall
Sadwrn 29 Hydref CAERDYDD, Neuadd Dewi Sant

Am ragor o wybodaeth am y daith, mae croeso i chi gysylltu â Chris Hewlett PR ar chris@chrishewlett.com neu 0845 601 2833.

Ffoto: Mitch Jenkins / Deutsche Grammophon

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor