Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Sinfonia Cymru yn penodi Prif Weithredwr

Cyhoeddwyd Dydd Gwener 8 Gorffennaf 2022

Mae Sinfonia Cymru wedi penodi Caroline Tress fel y Prif Weithredwr nesaf. Bydd yn cymryd yr awenau gan Peter Bellingham, a fydd yn gadael ei swydd ar ddiwedd mis Medi.

Ar hyn o bryd, Caroline yw Rheolwr Cyffredinol Music Theatre Wales. Dechreuodd ei gyrfa fel Cysylltai gyda chwmni Price Waterhouse Coopers, ond symudodd i’r maes celfyddydol ar ôl deunaw mis gan ddechrau fel aelod o dîm castio Opera Cenedlaethol Cymru. Yn dilyn hyn ymunodd ag adran gyllid English Touring Opera cyn symud i’r Oxfordshire Youth Arts Partnership fel Rheolwr Cyffredinol. Cyn ymuno â Music Theatre Wales, hi oedd Rheolwr Cyffredinol Gŵyl Bro Morgannwg, gŵyl flynyddol o gerddoriaeth gyfoes yn ne Cymru.

Wrth wneud y penodiad dywedodd Catrin Slater, Cadeirydd y Bwrdd:

“Mae Caroline yn angerddol dros waith Sinfonia Cymru a’i weledigaeth unigryw ar gyfer cerddorion ifanc proffesiynol ac ar gyfer cynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru. Mae’n dod â thoreth o brofiad cyfoethog o’i swyddi blaenorol, ac yn ymuno â thîm rhagorol ar adeg cyffrous. Rydym wrth ein bodd y bydd hi’n arwain y sefydliad yn y bennod nesaf yn ei hanes.”

Dywedodd Caroline Tress:

“Rwy’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at ymuno â thîm Sinfonia Cymru yr Hydref hwn. Ym mhob cyngerdd Sinfonia Cymru i mi ei fynychu, rwyf wedi bod yn curo dwylo’n hynod frwdfrydig; mae ansawdd y gerddoriaeth, llawenydd amlwg y cerddorion sy’n perfformio, a’r teimlad cynnes sy’n codi o’r gynulleidfa bob amser yn anhygoel o bwerus. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar ethos y sefydliad o gynhwysiant a chreadigedd, ac at greu atgofion cerddorol parhaus i offerynwyr, cynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor