Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Artistiaid gwestai

Dwr, Tir, Aer – Cyfweliad gyda Casi Wyn.

Cyhoeddwyd Dydd Llun 27 Mehefin 2022

Llifo

Y gerddoriaeth a’r geiriau gan Casi Wyn

Cynhyrchwyd gan Sion Trefor

 

Wrth inni edrych ymlaen at ein perfformiadau o Dwr, Tir, Aer gyda Casi Wyn yr wythnos hon, cafodd ein Ymgynghorydd Marchnata Heulwen Davies sgwrs gyda Casi i gael blas o’r hyn sydd i ddod…

 

Casi, ryden ni wrth ein bodd yn cydweithio efo ti ar Dwr, Tir, Aer ac yn methu aros i rannu’r cyfan gyda’n cynulleidfa yng Nghaerdydd a Bangor yn fuan. Beth am inni ddechrau gyda cefndir y prosiect?

Yn gyntaf, dwi hefyd yn andros o gyffrous am y prsiect yma! Ges i wahoddiad gan Sinfonia Cymru i gydweithio ar ddarn cerddorol newydd, ble byddai’n datblygu a pherfformio’r cyfan efo saith o’i cerddorion talentog. Roedden ni’n awyddus i ddatblygu cywaith hudolus fyddai’n ail gyflwyno pwer cerddoriaeth fyw i’r gynulleidfa unwaith eto, a’r gobaith yw y bydd hwn yn brofiad arbennig iawn i’r gynulleidfa yn y ddau leoliad.

 

Beth oedd yr ysbrydoliaeth i’r darn?

Yn syml, Cymru. Yn Dwr, Tir, Aer ryden ni’n archwilio a dathlu Cymru. Mae’n llenyddiaeth a’n diwylliant wedi’i wreddio’n ddwfn yn ein tirlun a’r byd natur o’n cwmpas, felly mae pob un o’r dair act yn ffocysu ar wahanol elfennau o’n tirlun hardd a’n diwylliant unigryw.

 

Beth all ein cynulleidfa ni ddisgwyl ar y noson?

Yr annisgwyl! Mae o fel trac sain i ffilm Disney sydd ddim yn bodoli eto, ble mae’r straeon yn Gymreig a cheltaidd. Yn act ‘Dwr’, mae’r gerddoriaeth yn ddwfn, yn archwilio afonydd a chariad a mwy. Yn ‘Aer’ cewch brofi melodi a sain ysgafnach fydd yn eich codi chi i lefydd annisgwyl. Bydd rhai o’r offerynwyr yn defnyddio’i lleisiau hefyd, mae’n mynd i fod yn brofiad ac yn siwrne hardd inni gyd.

 

Sut ti’n teimlo am weithio efo’n cerddorion?

Mae’n brofiad ‘cwl’ ac unigryw iawn gan nad oes arweinydd, felly ryden ni’n cael cydweithio’n agos mewn cyfnod ymarfer byr a dwys yn Ty Cerdd. Mae cyfle i bawb roi stamp ei hun ar y gerddoriaeth ‘dwi wedi ysgrifennu. Mae’n brofiad cyffrous iawn i fi fel artist i weld y cyfan yn datblygu’n organic, dwi’n methu aros i weld sut bydd y cyfan yn troi allan ychydig ddyddiau cyn inni berfformio o flaen cynulleidfa am y tro cyntaf.

 

Dim ond dau gyfle sydd i brofi Dwr, Tir, Aer. Pam ddylai pobl fynd ati i archebu’r tocynnau?

Oherwydd dwi’n gaddo digon o hud a lledrith a charedigrwydd i’r gynulleidfa ar ffurf cerddoriaeth a melodi. Mae cerddoriaeth yn rhywbeth sanctaidd i fi, felly bydd ein cynulleidfa yn profi rhywbeth hollol arbennig fydd yn mynd a’i meddyliau ar siwrne i ble bynnag mae nhw angen bod. Bydd yn brofiad agos atoch a cewch wenu, ymlacio, crio, teimlo’n gyffrous…beth bynnag rydech chi angen ar y pryd. Bydd yn brofiad arbennig ac yn aros gyda chi am amser hir gobeithio.

 

Bydd Dwr, Tir, Aer yn cael ei berfformio yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru yng Nghaerdydd ar Nos Iau y 30 o Fehefin, ac yn Pontio, Bangor ar y 1af o Orffennaf. Mae’r ddau berfformiad am 19:30. 

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor