Swydd ar gael – Prif Weithredwr
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 10 Mai 2022
Mae Sinfonia Cymru yn chwilio am Brif Weithredwr i gymryd yr awenau i arwain y sefydliad pan fydd Peter Bellingham yn sefyll i lawr o’r rôl honno ar ddiwedd Medi 2022. Mae hwn yn gyfle gwych i lywio Sinfonia Cymru drwy gam nesaf ei ddatblygiad.
Rydyn ni’n hoffi gwneud pethau’n wahanol. Weithiau rydyn ni’n gerddorfa yn yr ystyr draddodiadol, yn amrywio mewn maint o ensemble llinynnol i gerddorfa symffoni lawn. Ar adegau eraill byddwn yn gweithio mewn grwpiau llawer llai, gan greu perfformiadau agos-atoch mewn amryw o arddulliau gwahanol. Mae pob un o’n hofferynwyr dan 30 oed – y llawryddion ifanc gorau o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol – a’n nod ni yw rhoi’r dechrau gorau posib iddynt yn eu gyrfaoedd. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd iddynt i ddatblygu eu sgiliau a’u gallu cerddorol, ac mae ein prosiectau niferus dan arweiniad yr offerynwyr yn ganolog i’n hethos. Mae hyn i gyd er budd cynulleidfaoedd ledled Cymru, sy’n cael cyfle i fwynhau perfformiadau o’r radd flaenaf.
“There is an incredible culture at Sinfonia Cymru that exists across players and the management; everyone has a can-do attitude and a generous spirit. This has a direct and quite special effect on the music-making.” Caroline Pether, cyn-Arweinydd
Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 10 Mehefin 2022. Gweler y pecyn gwybodaeth recriwtio am fanylion ynghylch sut i gyflwyno cais. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai sy’n cael eu tangynrychioli yn sector y celfyddydau a diwylliant. Ar hyn o bryd mae’r swydd yn un amser llawn, ond rydym yn agored i geisiadau am drefniant llawn amser a rhan amser.