Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Thaith Neuaddau Pentref

Cyhoeddwyd Dydd Sadwrn 16 Ebrill 2022

Sinfonia Cymru’n lansio ei Thaith Neuaddau Pentref –
Perfformiadau byw mewn 20 lleoliad gwledig ym mis Mai

Ym mis Mai eleni, bydd Sinfonia Cymru’n ymgymryd â thaith genedlaethol gyntaf y gerddorfa, ac yn gwneud hynny mewn steil gyda 20 o berfformiadau byw mewn 20 o leoliadau gwledig o amgylch Cymru. Yn wreiddiol, roedd y daith ‘Mainly Village Halls Tour’ wedi’i threfnu i ddathlu pen-blwydd y gerddorfa’n 25 oed yn 2021, ond yn sgil Covid bu’n rhaid ei gohirio hyd nawr.

Mae Sinfonia Cymru yn gerddorfa broffesiynol unigryw, gyda’i holl aelodau dan 30 oed, ac yn teimlo’n angerddol dros fynd â cherddoriaeth o safon uchel i ardaloedd gwledig lle nad yw cynulleidfaoedd fel arfer yn cael cyfle i fynychu cyngherddau o’r fath. Diolch i’r cyllid a ddaw o Gyngor Celfyddydau Cymru, a chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, ynghyd â chymorth pellach gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte, Ymddiriedolaeth Elusennol Fidelio ac Ymddiriedolaeth Oakdale, mae modd i Sinfonia Cymru gynnig y perfformiadau hyn yn rhad ac am ddim, gan roi mynediad i gynulleidfa ehangach mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru.

Dywedodd Peter Bellingham, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru: “Rydym yn awyddus i bawb gael mynediad at gerddoriaeth o safon uchel, a gobeithiwn y bydd y daith hon yn chwalu unrhyw rwystrau i’r gynulleidfa. Mae hwn yn gyfle gwych i chi glywed rhai o’r cerddorion ifanc gorau yn y DU wrth eu gwaith mewn cyngherddau anffurfiol ac ymlaciol, esgus gwych i’r gymuned ddod ynghyd.”

Os ydych yn ansicr ynglŷn â cherddoriaeth glasurol, does dim angen poeni. Dyw Sinfonia Cymru ddim yn gerddorfa nodweddiadol! Bydd y daith hon yn cynnwys ystod eang o gerddoriaeth gyda rhywbeth i apelio at bawb, yn cynnwys plant. Bydd pob cyngerdd yn ymlaciol ac anffurfiol, yn para llai nag awr, ac ar ddiwedd y perfformiad bydd cyfle i gwrdd a sgwrsio â’r cerddorion ifanc proffesiynol.

Yn wahanol i deithiau cenedlaethol eraill, mae Sinfonia Cymru hefyd wedi rhaglennu pedwar cyngerdd gwahanol ledled Cymru. Gall cynulleidfaoedd yng nghanolbarth Cymru fwynhau gwrando ar bedwarawd llinynnol, tra yn y de a’r Cymoedd gallant fwynhau grŵp chwyth; yr arlwy yn y de-orllewin fydd pedwar soddgrwth, gyda chynulleidfaoedd y gogledd-orllewin yn mwynhau cyfuniad o delyn, ffliwt a soddgrwth. Os ydych wedi mwynhau eich perfformiad lleol, beth am ymweld â lleoliad mewn rhan arall o Gymru i fwynhau perfformiad gwahanol? Mae’r cyfan yn rhad ac am ddim!

Mae’r galw am y perfformiadau wedi bod yn anhygoel, gyda lleoliadau ledled Cymru’n awyddus i gynnig y perfformiadau unigryw hyn i’w cymunedau.

“Fe gawson ni ymateb gwych i’n galwad ar y cyfryngau cymdeithasol am leoliadau, ac arweiniodd hynny at gyfweliad gyda Shân Cothi ar BBC Radio Cymru. Rydym wedi derbyn llu o geisiadau oddi wrth drefnwyr lleoliadau a gwirfoddolwyr, sy’n dangos faint o alw sydd am gerddoriaeth o safon uchel mewn ardaloedd gwledig.”
Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchnata, Sinfonia Cymru.

Bydd taith ‘Mainly Village Halls Tour’ yn cychwyn yng nghanolbarth Cymru gyda’r perfformiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Neuadd Dyfi, Aberdyfi ar 4 Mai, cyn teithio i Derwenlas, Cletwr yn Nhre’r-ddôl, Neuadd yr Eglwys Llangammarch ac Ysgol Gynradd Carreghofa.  Ar gyfer y rhan gyntaf hon o’r daith byddwn yn partneru gyda Neuadd Gregynog, gyda’r pedwarawd llinynnol yn treulio cyfnod preswyl o wythnos yn y lleoliad eiconig hwn.

Ymlaen wedyn i dde Cymru a’r Cymoedd ar 13 Mai, gan gychwyn yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw cyn mynd ymlaen i Bafiliwn Porthcawl, Neuadd Les Tylerstown, Y Met yn Abertyleri a Neuadd Les Beaufort Hill. Yn ne-ddwyrain Cymru, cynhelir y perfformiad cyntaf yn Rhosygilwen ar 20 Mai, cyn mynd ymlaen i Peppers yn Abergwaun, Neuadd Goffa Solfach, Neuadd y Pentref Ffarmers a Neuadd Gymunedol Blaendulais. Ac yn olaf, bydd taith y gogledd-ddwyrain yn agor ar 27 Mai yn Neuadd y Pentref Rhosybol, ac yna’n symud ymlaen i’r Iorwerth Arms ym Mryngwran, Neuadd Pentrefelin a Neuadd Llanffestiniog, gyda’r daith yn dod i ben yn Yr Heliwr, Nefyn ddydd Sul 29 Mai.

Mae manylion llawn a gwybodaeth am docynnau i’w cael ar www.sinfonia.cymru/what’s-on

Cefnogir y prosiect hwn gan:

Colwinston Charitable Trust

Community Foundation Wales  –  D’Oyly Carte Charitable Trust  –  Fidelio Charitable Trust  –  Oakdale Trust

 

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor