Cyfleoedd
Diddordeb mewn ymuno â’n Bwrdd?
Cyhoeddwyd Dydd Mercher 20 Ebrill 2022
Ar hyn o bryd, rydym yn awyddus i recriwtio aelodau ychwanegol i’r Bwrdd / Ymddiriedolwyr i gefnogi’r sefydliad a darparu llywodraethiant o’r radd flaenaf. Os ydych chi’n rhywun sy’n angerddol am gerddoriaeth a’r celfyddydau, ac yn ystyried gwirfoddoli mewn rôl Ymddiriedolwr, gwahoddwn chi i fwrw golwg dros y pecyn recriwtio i gael rhagor o fanylion. Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau yw Dydd Gwener, 20 Mai 2022.