Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Yn Cyflwyno Arweinydd Newydd Sinfonia Cymru – Roberto Ruisi.

Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021

Yn Cyflwyno Arweinydd Newydd Sinfonia Cymru – Roberto Ruisi.

Mae Sinfonia Cymru yn gyffrous i gyhoeddi arweinydd newydd y gerddorfa; Roberto Ruisi. Ar ôl bod yn rhan o’r gerddorfa fel feiolinydd am bum mlynedd, mae Roberto wedi bod yn rhan o sawl prosiect cyffrous gyda Sinfonia Cymru, gan gynnwys cyngerdd gyda Karl Jenkins yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Gofeb Aberfan, a pherfformiad yng Ngŵyl Abu Dhabi gyda Syr Bryn Terfel.

“Mae Sinfonia Cymru yn lle gwych i fod. Mae’r ansawdd bob amser yn anhygoel, mae’n gydweithredol, yn hwyl, yn gymdeithasol ac yn groesawgar iawn, mae’n gerddorfa unigryw. Mae’r rôl hon yn golygu fy mod i’n cael cymryd rhan yn y tymor hir, gan helpu cerddorion newydd a chyffrous i ddatblygu a derbyn profiadau anhygoel ar ddechrau eu gyrfaoedd. Rydw i wrth fy modd!”.

Dechreuodd Roberto ei rôl newydd yn ystod ein taith ddiweddar o amgylch Cymru ac yn Wigmore Hall, Llundain gyda Timothy Ridout. Bydd ei rôl newydd yn cynnwys llawer o amrywiaeth; bod yn rhan o glyweliadau’r gerddorfa, chwilio am dalent newydd, y cyfle i rannu syniadau ar raglennu, dewisiadau cerddorol, cyfarwyddo darnau, heb anghofio’r cyfle i chwarae a rhannu ei dalent gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Peter Bellingham, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru wrth ei fodd gyda’r penodiad.

“Rydym ni wrth ein boddau bod Robbie wedi cytuno i ddod yn Arweinydd nesaf Sinfonia Cymru. Gyda’n ffocws ar gerddorion ifanc ym mlynyddoedd cynnar eu gyrfaoedd, mae’n bwysig bod gennym arweinydd sydd nid yn unig yn gerddor eithriadol ond hefyd yn rhywun a all ysbrydoli a chefnogi’r chwaraewyr ifanc a darparu arweinyddiaeth artistig. Mae Robbie yn gweddu i’r proffil hwnnw’n berffaith.”

Dechreuodd Roberto chwarae’r ffidil pan roedd yn ddwy oed! Cafodd ei daith fel cerddor ei ddylanwadu gan ei ddau frawd hŷn;

“Nid yw ein rhieni yn gerddorion, ond cawsom ein magu i garu cerddoriaeth ers y diwrnod cyntaf. Rwy’n cofio Max, fy mrawd hŷn yn dod a soddgrwth adref un diwrnod, dywedodd fy rhieni wrtho am ei ddychwelyd i’r ysgol gan eu bod yn gwybod faint o waith ac ymrwymiad oedd yn cymryd i ddysgu offeryn. Wrth gwrs, ni ddychwelodd y soddgrwth, a gyda chefnogaeth ein rhieni, fe barhaodd i ddysgu! Dilynodd Alessandro gyda’r ffidil, ac yna roeddwn i eisiau cymryd rhan. Mae’r gweddill yn hanes!”

Mae’r tri brawd bellach yn gerddorion proffesiynnol, llawn amser yn Llundain. Maent yn chwarae gyda’i gilydd fel rhan o’r 12 Ensemble, sydd wedi datblygu enw da fel un o gydweithfeydd mwyaf gwefreiddiol yn Ewrop. Fel ei frodyr, astudiodd Roberto gyda Lucy Akehurst, athrawes ffidil glodwiw ym Mirmingham.

Yn ei arddegau, arweiniodd Roberto Gerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr am dair blynedd yn olynol, ac ar ôl hynny symudodd i Lundain i astudio yn y Coleg Cerdd Frenhinol. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau, fe ddyfarnwyd iddo Fedal Aur Tagore.

Fe dderbyniodd y cyfle i deithio hefyd, gan dderbyn gwahoddiadau i chwarae yn rhai o’r gwyliau cerdd siambr fwyaf clodwiw yn y DU a thramor.

“Rydw i wrth fy modd yn teithio, rydw i bob amser yn dysgu llawer ohono. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae ym mhob cornel o’r byd trwy gerddoriaeth, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau ymhell i’r dyfodol.”

Mae o’n edrych ymlaen at dreulio fwy o amser yng Nghymru yn ystod 2022, ac mae ganddo lawer o syniadau cyffrous ar gyfer Sinfonia Cymru;

“Rwy’n edrych ymlaen at helpu i ddatblygu’r gerddorfa hon yn y ffordd mae’n ei haeddu. Mae Sinfonia Cymru yn dod a cherddoriaeth a llawenydd i gymunedau ledled Cymru, yn ogystal â gweddill y byd, ac mae o wedi bod yn amlwg i mi erioed eu bod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i yrfaoedd a bywydau cerddorion ifanc. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o hynny, gan helpu i ledaenu gair y gerddorfa ryfeddol hon. Mae gennym lawer i edrych ymlaen ato flwyddyn nesaf, gan ddechrau gyda’n taith rhwng 3 – 6 Chwefror, gyda Lucienne Renaudin Vary, trwmpedwraig ifanc rhyfeddol. Dwi’n methu aros”.

Ymhlith newidiadau diweddar arall yn Sinfonia Cymru, mae penodi cyn-aelod sef Simmy Singh yn Gydymaith Creadigol, gan hefyd benodi aelodau newydd y Bwrdd gyda Joe Marriot ac Alistair Vennart – mae Alistair hefyd yn gyn-aelod o’r gerddorfa.

  • DIWEDD   –

Am fanylion pellach cysylltwch â Heulwen Davies, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Sinfonia Cymru ar post@llais.cymru neu 07817591930.

Am fanylion pellach am Sinfonia Cymru ewch in gwefan www.sinfonia.cymru

 

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor