Penwythnos Haf #1
Cyhoeddwyd Dydd Iau 12 Awst 2021Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.
Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.
Sesiwn 6 – Dydd Sul 22 Awst, 2pm
Mae Poulenc yn gyfansoddwr poblogaidd repertoire chwythbrennau ac, ar gyfer ein detholiad olaf o Ddewisiadau Chwaraewyr, dechreuwn y sesiwn gyda’i Sonata for Clarinet and Bassoon wedi’i chwarae gan Will Knight a Cat McDermid. Dilynir hyn gan ddarn ffliwt a phiano gan y pianydd jazz a’r cyfansoddwr Ffrengig, Claude Bolling, wedi’i chwarae gan Dan Shao (ffliwt) a Hamish Brown (piano). I orffen y sesiwn, ailedrychwn ar I Say A Little Prayer, y falâd eiconig a wnaed yn enwog gan Aretha Franklin, mewn fersiwn pedwarawd llinynnau a drefnwyd gan Ali Vennart.
Rhaglen
- Francis Poulenc Sonata for Clarinet and Bassoon
- Claude Bolling Suite for Flute and Jazz Trio - Javannaise
- Burt Bacharach, arr. Ali Vennart I Say A Little Prayer