Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Penwythnos Haf #4

Cyhoeddwyd Dydd Iau 12 Awst 2021

Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.

Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.

Sesiwn 4 – Dydd Sadwrn 21 Awst, 6.30pm

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar yr ail o’n rhaglenni Curate. Mae’r sesiwn, sef Endangered, wedi’i churadu gan y fiolydd Ali Vennart ac yn cynnwys y ‘pedwarawd llinynnau isel’. Mae’r pedwarawd llai cyfarwydd hwn yn cael gwared ar y feiolinau ac yn rhoi amlygrwydd i 2 fiola, sielo a bas dwbl. Yn y rhaglen, byddwch yn clywed cerddoriaeth gan Telemann, Maria Kouznetsova a’r Red Hot Chili Peppers.

Rhaglen

  1. Georg Philipp Telemann, arr. Ali Vennart String Quintet in E Minor
  2. Maria Kouznetsova Curae
  3. Red Hot Chili Peppers, arr. Ali Vennart Get On Top

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor