Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Penwythnos Haf #3

Cyhoeddwyd Dydd Iau 12 Awst 2021

Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.

Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.

Sesiwn 3 – Dydd Sadwrn 21 Awst, 2pm

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys unawd obo gan Hannah Condliffe, cerddoriaeth ar gyfer y clarinét a’r piano gyda Will Knight a Hamish Brown, a symudiad o Drio Poulenc ar gyfer obo, basŵn a phiano, wedi’i chwarae gan Amy Roberts, Matthew Kitteringham a Hamish Brown. Mae ein darn Ail Gyfle yn y sesiwn hon yn ffefryn o’r cyfnod clo – trefniant Ali Vennart o’r gân Can’t Stop gan y Red Hot Chili Peppers.

Rhaglen

  1. Georg Philipp Telemann Fantasie in D Minor
  2. Joseph Horowitz Sonatina - Lento quasi Andante
  3. Francis Poulenc Trio for Oboe, Bassoon and Piano - Presto
  4. Red Hot Chili Peppers, arr. Ali Vennart Can't Stop

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor