Penwythnos Haf #1
Cyhoeddwyd Dydd Gwener 6 Awst 2021Mae Gŵyl Penwythnos Haf Sinfonia Cymru yn cynnwys 14 o fideos newydd yn ogystal â 4 o’n hoff ddewisiadau o’r catalog presennol. Mae tair rhan i’r ŵyl: Dewisiadau Chwaraewyr, lle mae ein chwaraewyr chwythbrennau wedi dewis eu hoff ddarnau; Curate, lle rydyn ni’n rhoi cyfle i gerddorion greu a datblygu eu rhaglen eu hunain ar y thema o’u dewis; ac Ail Gyfle, sy’n cynnwys pedwar o’n hoff ddarnau presennol.
Ymunwch â ni o ddydd Gwener 20 i ddydd Sul 22 Awst am wledd o gerddoriaeth yn amrywio o Hamilton Harty i Joseph Haydn, Clara Schumann i John Stanley, Arvo Pärt i Francis Poulenc, a Rene Griffiths i’r Red Hot Chili Peppers.
Sesiwn 1 – Dydd Gwener 20 Awst am 6.30pm
Agorwn ein Penwythnos Haf gyda’r cyntaf o’n rhaglenni Curate, sef Spiritual Borderlands, a guradwyd gan Caroline Pether. Dewiswyd y gerddoriaeth yn arbennig i roi amser i’r gwrandäwr feddwl ac ystyried, neu fyfyrio os dymunwch. Mae set o fyfyrdodau enghreifftiol ar y wefan y gallwch eu defnyddio – fel arall, gallwch fynd ar eich taith eich hun. Mae’r gerddoriaeth a glywch gan John Tavener, Arvo Pärt, Haydn, a threfniant newydd o Abide With Me, a wnaed gan Simon Parkin ar gyfer y perfformiad hwn.
Rydyn ni’n ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Radcliffe, Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick ac Ymddiriedolaeth Idlewild am gefnogi’r gyfres Curate.
Rhaglen
- John Tavener, arr. Simon Parkin The Lamb
- Arvo Pärt Summa
- Joseph Haydn The Seven Last Words of Christ
- William Henry Monk, arr. Simon Parkin Abide With Me