Dewisiadau Chwaraewyr – Trio for Oboe, Bassoon & Piano, Poulenc
Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Awst 2021Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.
Fe roddon ni ddau ddewis i’r oböydd Amy Roberts oherwydd iddi ein helpu i drefnu’r prosiect. Mae rhai o’r farn mai’r Trio for Oboe, Bassoon & Piano gan Poulenc yw ei waith siambr mawr cyntaf. Mae wedi’i gyflwyno i Manuel de Falla, ac fe’i chwaraewyd am y tro cyntaf ym Mharis ym 1927 gyda Poulenc wrth y piano.
Rhaglen
- Amy Roberts Oboe
- Matthew Kitteringham Bassoon
- Hamish Brown Piano
- Francis Poulenc Trio for Oboe, Bassoon & Piano - Presto