Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Dewisiadau Chwaraewyr -Tre Poemi, Kirchner

Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Awst 2021

Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.

Mae’r darn hwn, a ddewiswyd gan Danae, yn dangos yr utgorn a’r piano ar eu gorau. Mae’r cyfansoddwr Almaenig, Kirchner, yn archwilio gwahanol effeithiau sain ac mae’r darn yn dechrau gyda chloch yr utgorn yn pwyntio tuag at glawr agored y piano, gan ddefnyddio seinfwrdd a phedal cynnal y piano i ymestyn nodau’r utgorn.

Rhaglen

  1. Danae Eggen Horn
  2. Hamish Brown Piano
  3. Volker David Kirchner Tre Poemi - Lamento

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor