Perfformiad digidol
Dewisiadau Chwaraewyr – Three Romances, C. Schumann
Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Awst 2021Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.
Mae Three Romances gan Clara Schumann, y mae Katherine Bryer yn chwarae’r cyntaf ohonynt yma, wedi’u benthyca o’r feiolin, ond bellach yn rhan annatod o repertoire yr obo.
Rhaglen
- Katherine Bryer Oboe
- Hamish Brown Piano
- Clara Schumann Three Romances - No. 1