Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Dewisiadau Chwaraewyr – Romance for Bassoon, Elgar

Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Awst 2021

Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.

Mae Matt Kitteringham wedi dewis Romance for Bassoon gan Edward Elgar, a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer basŵn a cherddorfa ac a drawsgrifiwyd hefyd gan Elgar ar gyfer y sielo. Cyfansoddwyd y fersiwn fasŵn wreiddiol, o 1909/10, ar gyfer Edwin F James, sef prif faswnydd Cerddorfa Symffoni Llundain ar y pryd.

Rhaglen

  1. Matthew Kitteringham Bassoon
  2. Hamish Brown Piano
  3. Edward Elgar Romance for Bassoon

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor