Dewisiadau Chwaraewyr – Liten Statymusik, Klaverdal
Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Awst 2021Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.
Dewiswyd y trio hwn ar gyfer ffliwt, clarinét a basŵn, sef Liten Statymusik gan Stefan Klaverdal, gan Camilla Marchant (ffliwt) ac Emily Newman (basŵn). Y cyfieithiad o deitl y darn gan y cyfansoddwr o Sweden yw ‘cerddoriaeth ddelw fach’.
Rhaglen
- Camilla Marchant Flute
- William Knight Clarinet
- Emily Newman Bassoon
- Stefan Klaverdal Liten Statymusik