Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Dewisiadau Chwaraewyr – Fantasie in D minor, Telemann

Cyhoeddwyd Dydd Llun 9 Awst 2021

Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.

Cyfansoddwyd y darn hwn gan Telemann, wedi’i chwarae gan Hannah Condliffe, yn wreiddiol ar gyfer y ffliwt fel un o ddeuddeg Ffantasi. Fe’i benthycir gan yr obo fan hyn, a chredwn ei fod yn gweithio’n hyfryd.

Rhaglen

  1. Hannah Condliffe Oboe
  2. Georg Philipp Telemann Fantasie in D minor

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor