Dewisiadau Chwaraewyr – Clarinet Sonatina, Horovitz
Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Awst 2021Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.
Ar gyfer y darn unawd hwn, mae Will wedi dewis ail symudiad y Clarinet Sonatina gan Horovitz. Mae’r gwaith ysgafngalon hwn, a gyfansoddwyd ym 1981, wedi’i ddylanwadu’n felodaidd ac yn rhythmig gan jazz a cherddoriaeth boblogaidd arall.
Rhaglen
- William Knight Clarinet
- Hamish Brown Piano
- Joseph Horovitz Clarinet Sonatina