Curate – Spiritual Borderlands
Cyhoeddwyd Dydd Llun 30 Awst 2021Dewiswyd y gerddoriaeth yn y rhaglen hon yn benodol i roi amser a lle i chi feddwl ac ystyried, a myfyrio os dymunwch. Fe’ch anogaf i adael i’ch hun fynd ar daith fyfyrgar a/neu ysbrydol heb bwysau cyrchfan. Byddwch yn llonydd, gwrandewch, a chroesawch y ffindir ysbrydol.
Os hoffech fyfyrio, argymhellaf yr athro a’r awdur Bwdhaidd, Thich Nhat Hanh. Fe ddes i ar ei draws gyntaf wrth ddarganfod llyfr a ysgrifennodd sy’n archwilio’r amryw athroniaethau a dysgeidiaethau sy’n gyffredin rhwng Cristnogaeth a Bwdhaeth. Mae’n dangos y budd a geir wrth i bobl ddod ynghyd i ddysgu gan ei gilydd ac agor eu meddyliau i syniadau eraill. Mae ei fyfyrdodau ysgrifenedig mor brydferth yn eu symlrwydd, ac mae eu pwyslais ar dosturi a byw yn y presennol yn ein hatgoffa o wirioneddau a gwerthoedd craidd i’w dilyn mewn bywyd.
Rydw i wedi dewis pedwar myfyrdod byr i weddu i bob un o’r darnau yn y rhaglen. Mae croeso i chi eu defnyddio neu efallai archwilio myfyrdodau eraill.
Rydyn ni’n ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Radcliffe, Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick ac Ymddiriedolaeth Idlewild am gefnogi’r gyfres Curate.
Rhaglen
- Caroline Pether Violin
- Roberto Ruisi Violin
- Kim Becker Viola
- Waynne Kwon Cello
- Tavener, arr. S.Parkin The Lamb
- Arvo Pärt Summa
- Haydn The Seven Last Words of Christ - Father, into thy hands I commend my spirit
- Monk, arr. S.Parkin Abide With Me