Dewisiadau Chwaraewyr – Chansonette, Hamilton Harty
Cyhoeddwyd Dydd Llun 9 Awst 2021Roedden ni eisiau creu mwy o fideos cerddoriaeth i chi a hefyd rhoi cyfle i’n chwaraewyr chwythbrennau ddisgleirio. Felly, fe ofynnon ni iddyn nhw ddewis eu hoff ddarnau o’r repertoire chwythbrennau. Mae’r canlyniad yn ddetholiad o unawdau, deuawdau a thriawdau byr sy’n rhychwantu amrywiaeth o gyfansoddwyr ac arddulliau cerddorol.
Mae Amy wedi dewis y darn swynol Chansonette gan Hamilton Harty. Treuliodd y cyfansoddwr Gwyddelig, Harty, rywfaint o’i yrfa yn Llundain a Manceinion. Bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Halle o 1920 i 1933, ac roedd ganddo hefyd gontract byr gyda Cherddorfa Symffoni Llundain o 1932-34.
Rhaglen
- Amy Roberts Oboe
- Hamish Brown Piano
- Hamilton Harty Chansonette