Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Roedd yn brosiect rhyfeddol yn 2016 gyda Bryn Terfel yn chwarae Cantata Bach ‘Ich habe genug’ yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Cyhoeddwyd Dydd Gwener 28 Mai 2021

Amy Roberts, Obo

Pryd ddechreuest ti chwarae’r obo? Roeddwn i’n 9 oed ond wedi bod eisiau chwarae ers i mi fod yn ifanc iawn. Roedd gennym ni gasét ‘the music man’ ac roeddwn i’n hoffi sŵn yr obo a sut oedd yn cael tiwnio pawb (yn ysu am bŵer!). Dywedodd fy nghanolfan gerdd fod rhaid i mi aros i’m dannedd mawr ddod trwodd, felly roedd hwnnw’n ddatblygiad cyffrous iawn pan ddigwyddodd!

Wyt ti’n chwarae unrhyw offerynnau eraill? Roedd fy Mam yn mynd â fi i ddosbarthiadau cerddoriaeth o’r groth ac yna fe ddes i’n gysylltiedig â kindermusik, recorder a chôr. Pan oeddwn yn 4 oed, fe ges i fy ysbrydoli gan fenyw a oedd yn chwarae’r piano yn yr eglwys ac fe ddechreuodd hi fy nysgu. Yna, pan ddysgodd fy mrawd 2il offeryn, fe ddes i o hyd i feiolin Mam o dan y gwely i gynnal y gystadleuaeth rhyngom ni….

Ble astudiest ti? Yn ystod yr ysgol uwchradd, fe es i i Ganolfan Llundain ar gyfer Cerddorion Ifanc i chwarae’r obo a’r feiolin a oedd yn baratoad gwych ar gyfer y coleg cerdd ac archwilio a mwynhau pob math o gerddoriaeth. Yna, fe gofrestres i ar y Cwrs ar y Cyd rhwng Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd (RNCM) a Phrifysgol Manceinion cyn symud yn ôl i Lundain ar gyfer cwrs ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol Cerddoriaeth (RAM).

Pryd wnest ti chwarae gyntaf gyda Sinfonia Cymru? Roedd yn brosiect rhyfeddol yn 2016 gyda Bryn Terfel yn chwarae Cantata Bach ‘Ich habe genug’ yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yn ddiweddarach, fe wnaethon ni ei berfformio gyda 2 aelod o’r Bale Brenhinol yn Opera Parc Grange.

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru? Mae’r gerddorfa’n gyfeillgar tu hwnt ac yn caniatáu cymaint o fewnbwn creadigol gan y chwaraewyr. Mae’r rhaglenni wastad yn ddiddorol ac rydyn ni’n cael ein hannog i feddwl am syniadau ar gyfer prosiectau.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru? Mae cymaint i ddewis o’u plith! Efallai chwarae Symffoni Glasurol Prokofiev gyda Gabor Takacs-Nagy, a oedd yn un o’r wythnosau mwyaf egnïol a bywiogol o waith dwi erioed wedi’i gwneud.

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall? Unwaith eto, mae cymaint i’w dewis! Fy mhrofiad cerddorol syfrdanol cynharaf oedd fy niwrnod cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Ysgolion Llundain yn chwarae Symffoni Rhif 7 Sibelius. Doeddwn i erioed wedi chwarae mewn ensemble mor wych ac yn methu credu pa mor lwcus oeddwn i. Hefyd, mae’n rhaid i berfformio Mahler 9 gyda Gustav Mahler Jugendorchestre fod yn uchel ar y rhestr!

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol? Mae’n rhyfeddol fy mod i’n cael ennill bywoliaeth trwy wneud yr hyn dwi’n dwlu arno, sy’n lwcus iawn. Mae cymaint o amrywiaeth o un wythnos i’r llall, rydych chi’n cyfarfod â phobl ddiddorol, ac mae’n rhyfeddol na fydda’ i byth yn cyrraedd diwedd yr holl gerddoriaeth yn y byd – mae cymaint i’w archwilio!

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw? Rwy’n treulio eithaf tipyn o amser yn chwarae gyda cherddorfeydd eraill yn y Deyrnas Unedig, rwy’n rhan o bumawd o’r enw ‘Moriarty Winds’ ac rwy’n mwynhau perfformio fel deuawd gyda’r pianydd Gamal Khamis. Hefyd, fe ryddheais i 2 lyfr o ymarferion cynhesu ar gyfer yr obo yn ddiweddar, a oedd yn ffordd wych o ystwytho fy nghyhyrau ysgrifennu a marchnata!

Beth yw dy dri hoff ddarn o gerddoriaeth, a pham?

  1. Messiaen: Quartet for the End of Time – mae’n eithriadol o hardd, yn enwedig o wrando arno yng nghyd-destun ei hanes, ac yn cael ei ysbrydoli gan y ffydd rwy’n ei rhannu gyda Messiaen.
  2. ‘Heather on the Hill’ o’r ffilm Brigadoon – rwy’n dwlu ar sain doreithiog ‘Hollywood’. Roedd y ddawns gerdd hon wedi tanio fy niddordeb mewn hen sioeau cerdd a ffilmiau, sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi.
  3. ‘Gloria’ o Offeren B leiaf Bach – llawenydd pur i mi!

Dyweda rywbeth diddorol amdanat I ni.

Mae gen i obsesiwn â Strictly (nad yw’n gyfrinach) ac rwy’n ceisio copïo’r symudiadau dawns mwyaf trawiadol ar ôl y sioe.

Ar ôl cefnu ar y syniad o ddilyn gyrfa fel ‘gwyddonydd gwyllt’, meddyliais y gallwn fod yn ‘dröwr tudalen’ proffesiynol pan oeddwn yn 11 oed. Fe ges i daleb lyfr gwerth £5 yn dâl ar ôl ‘gig troi tudalen’, a meddyliais falle y gallai hyn ddatblygu’n rhywbeth….

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor