Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Ydyn ni’n dod at y diwedd?

Cyhoeddwyd Dydd Iau 27 Mai 2021

Mae llygedyn o obaith ar y gorwel. Theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru yn awr yn gallu ailagor. Wrth gwrs, rhaid aros am y manylion ac mae bron yn sicr, cyn i bopeth ailagor, y bydd cyfres o ddigwyddiadau prawf, yn arwain at set o fesurau a fydd yn rheoli pryd a sut yn union y bydd lleoliadau’n ailagor eto. Yn realistig, nid ydym yn disgwyl cynnal perfformiadau byw eto tan yr hydref. Ond cawn weld.

Yn ystod y cyfnod hir tra bu’r celfyddydau ar stop, bu’n bwysig cadw mewn cysylltiad â’n chwaraewyr er mwyn iddynt deimlo bod cefnogaeth iddynt drwy gydol y pandemig. Rydyn ni wedi cynnal sesiynau dal i fyny trwy Zoom i roi’r diweddaraf iddynt am Sinfonia Cymru, a hefyd i ddarparu llwyfan iddynt drafod ymhlith ei gilydd. Rydyn ni hefyd wedi darparu cyfres o sesiynau datblygiad proffesiynol ar amrywiaeth o bynciau, gan dalu ffi i gerddorion i’w mynychu. Croesawyd y rhain yn arbennig:

“Diolch yn fawr, mae hynny’n gefnogol iawn ohonoch yn y cyfnod gofidus iawn hwn. Diolch am fod yno i ni!”

“Diolch unwaith eto am ofalu amdanon ni fel cerddorion

“Diolch am sesiwn hyfryd ac am ein cefnogi trwy’r cyfnod hwn – rwy’n ddiolchgar iawn am fod yn rhan o’r gerddorfa hon!”

Rydyn ni’n bwriadu cynnal mwy o’r rhain yn yr haf. Os hoffech gefnogi’r digwyddiadau hyn trwy gyfrannu rhodd, mae gennym ni fotwm ‘Cyfrannwch Rodd’ hyfryd ar ein gwefan – mae’n hawdd iawn ei ddefnyddio! Fel canllaw, rydyn ni’n talu ffi o ychydig dros £80 i bob cerddor fynychu pob sesiwn, ond os ydych chi’n ystyried cyfrannu rhodd, byddem yn croesawu ac yn gwerthfawrogi unrhyw swm yn fawr.

Gan fod ansicrwydd o hyd ynglŷn â digwyddiadau byw, byddwn yn parhau i gynhyrchu nifer fach o ddigwyddiadau wedi’u ffilmio i chi eu harchwilio trwy ein gwefan neu ein sianeli cyfryngau. Mae’r cyntaf o’r rhain ar gyfer chwaraewyr chwythbrennau gyda 12 o gerddorion yn rhannu eu hoff ddarnau gyda chi – cadwch lygad am y rhain ddiwedd mis Mai / dechrau mis Mehefin. Byddwn hefyd yn cynhyrchu fersiynau wedi’u ffilmio o dri o’n perfformiadau Curate, sydd bellach wedi cael eu canslo fel digwyddiadau byw am yr ail flwyddyn. Byddwn yn ffilmio’r rhain yn gynnar y mis nesaf, felly dylent fod ar gael ddiwedd mis Mehefin/dechrau mis Gorffennaf.

Fel rydyn ni wedi dweud o’r blaen, rydyn ni’n ysu am gael perfformio’n fyw i chi eto; y tro hwn mae’n teimlo fel na fydd rhaid i ni aros yn rhy hir!

Peter Bellingham, Prif Weithredwr

a thîm Sinfonia Cymru

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor