Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Gall unrhyw beth, bron iawn, fod yn offeryn i chwaraewr offerynnau taro.

Cyhoeddwyd Dydd Gwener 5 Mawrth 2021

Darren Gallacher, offerynnau taro 

Pryd ddechreuest ti chwarae offerynnau taro? Fe ddechreues i gael gwersi drymiau yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd, ac fe ddatblygodd hynny’n wersi offerynnau taro, felly tua 13 oed.

Wyt ti’n chwarae unrhyw offerynnau eraill? Gall unrhyw beth, bron iawn, fod yn offeryn i chwaraewr offerynnau taro. Dwi’n credu mai’r peth rhyfeddaf i mi ddod ar ei draws mewn darn hyd yma yw tegan weindio siâp cyw iâr ar hambwrdd pobi…dyw bywyd byth yn ddiflas pan fyddwch chi’n chwaraewr offerynnau taro!

Ble astudiest ti? Fe gwblheues i fy astudiaethau israddedig ym Mhrifysgol Napier Caeredin a’m gradd Meistr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd.

Pryd wnest ti chwarae gyntaf gyda Sinfonia Cymru? Roedd fy ymddangosiad cyntaf gyda Sinfonia Cymru yn rhan o brosiect Curate Delia Stevens, sef AlgoRhythms.

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru? Rydw i wir yn gwerthfawrogi’r amrywiaeth sy’n cael ei chynnig gan Sinfonia Cymru. Pan dwi’n gweithio gyda’r gerddorfa, dwi’n teimlo’n gyfforddus i fod yn fi fy hun ac adlewyrchu hynny yn y ffordd dwi’n chwarae. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am y ffordd wych mae Sinfonia Cymru yn cyfathrebu â’i cherddorion. Mae’r gerddorfa wedi bod mewn cysylltiad drwy gydol y pandemig, p’un ai i weld sut ydyn ni, rhoi’r diweddaraf i ni neu gynllunio sesiynau datblygu ar-lein. Mae hynny wedi tawelu ein meddyliau fel cerddorion nad yw pobl wedi anghofio amdanon ni.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru? Fe wnes i fwynhau AlgoRhythms yn fawr a chael rhyddid gan Sinfonia Cymru i archwilio potensial y cyngerdd. Roedd taith James Crabb yn gofiadwy i mi hefyd.

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall? Mae llawer i ddewis o’u plith, ond rwy’n credu mai un o’r rhai mwyaf cofiadwy fyddai mynd ar daith o amgylch Tsieina gyda Le Yu a’n chwechawd offerynnau taro. Chwarae mewn rhai neuaddau cyngerdd rhyfeddol a bwyta bwyd blasus rhyngddynt!

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol? I mi, y peth gorau am fod yn gerddor yw’r amrywiaeth sydd ar gael. Rwy’n dwlu cymryd rhan mewn pob math o brosiectau o’r clasurol i’r arbrofol. Cydweithio yw un o’r agweddau mwyaf cyffrous ar fod yn gerddor hefyd gan ei fod yn agor cymaint o ddrysau.

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw? Rwy’n gweithio’n llawrydd o amgylch y wlad. Rydw i wedi chwarae gyda Cherddorfa Hallé a Cherddorfa Ffilm y Gogledd, a chyn Covid roeddwn i’n gweithio gydag Opera yr Alban a oedd yn mynd â’u hopera ‘FoxTot!’ ar daith. Roeddwn i hefyd yn gweithio gyda’r cyfansoddwr a’r amlofferynnwr Robin Richards ar ryddhau ei ‘Castel EP’ a’r prosiect ffilm ‘The Earth Asleep’. Rydw i hefyd yn mwynhau chwarae fel unawdwr a gweithio gyda chyfansoddwyr i gomisiynu gweithiau newydd ar gyfer offerynnau taro, ac rwy’n addysgu pobl i chwarae’r drymiau ac offerynnau taro hefyd.

Beth yw dy dri hoff ddarn o gerddoriaeth, a pham?

Rwy’n hoffi gwrando ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth, ond petai rhaid i mi ddewis rhai yn benodol, byddwn i’n dewis:

‘Daft Punk – Da Funk’ – fe ddechreues i hoffi Daft Punk pan oeddwn i’n ifanc iawn oherwydd bod eu fideos wastad mor anarferol, a dwi wedi dwlu arnyn nhw ers hynny. Byddai’n dda gen i petawn i wedi cael fy ngeni ychydig yn gynt fel y gallwn i fod wedi’u gweld nhw’n perfformio’n fyw.

‘Steve Reich – Electric Counterpoint III’ – dwi’n dwlu ar holl gerddoriaeth Steve Reich, ac un o’m breuddwydion yw chwarae ‘Music for 18 musicians’ ryw ddydd. Mae’r symudiad yma’n fy atgoffa’n arbennig o fy nghyfnod yng Nghaeredin, pan ges i fy nghyflwyno i gerddoriaeth yr 20fed ganrif am y tro cyntaf. Dwi’n dwlu ar gerddoriaeth a chelf finimalaidd oherwydd ’mod i’n credu bod cymaint o ffyrdd o’i phortreadu.

‘Shostakovich Symphony No.8’ – fe ddes i ar draws y symffoni hon gyntaf pan oeddwn i ar Gynllun PES Hallé yn ystod blwyddyn gyntaf fy ngradd Meistr. Mae’r symffoni gyfan yn daith, ac mae’r cordiau uchafbwyntiol enfawr yn y Symudiad cyntaf ac olaf yn rhai o’r eiliadau cerddorfaol uchaf dwi erioed wedi dod ar eu traws ac maen nhw’n ffrwydro ag ing. Yna, ar y diwedd, mae’r offeryniaeth a’r ddynameg yn cael eu torri’n ôl yn llwyr, gan adael cyferbyniad cain iawn â bron popeth sydd wedi dod o’i flaen. Mae’n eiliad hyfryd ac rwy’n hoffi meddwl ei fod yn portreadu golau’n ymddangos ar ddiwedd twnnel hir.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor