Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Roedd perfformio gerbron cynulleidfa go iawn unwaith eto wedi gwneud i mi deimlo’n fyw!

Cyhoeddwyd Dydd Sadwrn 6 Chwefror 2021

Elen Roberts, Bas Dwbl

Pryd ddechreuest ti chwarae’r bas dwbl? Fe ddechreues i ddysgu’r bas dwbl pan oeddwn i’n wyth mlwydd oed.

Wyt ti’n chwarae unrhyw offerynnau eraill? Fe ddysges i chwarae’r piano cyn dechrau dysgu’r bas dwbl.

Ble astudiest ti? Fe astudies i yn yr Academi Frenhinol Cerdd yn Llundain ar gyfer fy ngraddau israddedig ac ôl-raddedig.

Pryd wnest ti chwarae gyntaf gyda Sinfonia Cymru? Ar ôl cael clyweliad ar gyfer y rhestr ychwanegol ym mis Mai 2018, fe ges i wahoddiad i chwarae gyda’r gerddorfa ym mis Chwefror 2019 ar gyfer cyngerdd pen-blwydd Karl Jenkins yn 75 oed yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Ychydig a wyddwn i, ar ôl blynyddoedd o chwarae Palladio yn yr ysgol, y byddwn i’n cael perfformio Palladio gyda Karl Jenkins ei hun yn arwain! Roedd yn gyngerdd arbennig iawn ac roeddwn i’n falch o fod yn rhan ohono.

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru? Rydw i bob amser yn edrych ymlaen at weithio gyda Sinfonia Cymru. Rwy’n mwynhau gallu perfformio yn fy ninas enedigol, Caerdydd, gyda chynifer o gerddorion ifanc gwych. Rwy’n dwlu ar yr amrywiaeth o brosiectau mae Sinfonia Cymru yn eu cynnig, ac mae pob prosiect yn rhychwantu cymaint o wahanol genres ac arddulliau cerddorol.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru? Fy hoff atgof o Sinfonia Cymru, heb os, yw perfformio fersiwn chwechawd o Metamorphosen gan Richard Strauss yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Tachwedd 2020. Mae’n ddarn mor hyfryd ac rwy’n cofio teimlo mor gyffrous i’w berfformio! Dyna beth dwi wedi’i golli cymaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd perfformio gerbron cynulleidfa go iawn unwaith eto wedi gwneud i mi deimlo’n fyw!

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall? Mae cymaint i ddewis o’u plith, ond un o’m hoff uchafbwyntiau cerddorol yw perfformio Mahler 2 yn y Neuadd Ŵyl Frenhinol gyda Seymon Bychkov a Cherddorfa Symffoni yr Academi Frenhinol Cerddoriaeth. Mae’n symffoni mor epig, ac rwy’n dwlu ar weithiau cerddorfaol mawr sy’n cynnwys côr ac organ. Roedd yr awyrgylch yn wefreiddiol yn y Neuadd Ŵyl Frenhinol y noson honno a dyna oedd un o’m gigiau gorau erioed, heb os. Byddai’n dda gen i fynd yn ôl a’i wneud drosodd a throsodd!

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol? Rydw i wastad yn teimlo mor lwcus ’mod i’n gallu gwneud ‘gwaith’ dwi’n dwlu arno. Rydw i wedi gallu teithio i leoedd newydd a pherfformio yn rhai o’r lleoliadau cyngerdd harddaf yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Rydw i’n teimlo mor lwcus i weithio gyda chynifer o gerddorion gwych sy’n fy ysbrydoli’n ddiddiwedd. Rydw i hefyd yn hoffi’r amrywiaeth, wrth gwrs, ac mae pob gig yn wahanol! Rydw i mor barod ac yn edrych ymlaen at berfformio a chwarae eto, gobeithio, ar ôl y pandemig!

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw? Rydw i’n gweithio’n llawrydd gyda gwahanol gerddorfeydd proffesiynol gan gynnwys, BBC NOW, Rpo, Lpo ac rydw i’n cael cyfnod treialu ar hyn o bryd ar gyfer y lle Is-unawdydd bas dwbl yng Ngherddorfa Symffoni Bournemouth.

Beth yw dy dri hoff ddarn o gerddoriaeth, a pham? Mae wastad yn newid, ond fy hoff dri heddiw yw….

Amy Winehouse – Valerie

Prokofiev Symffoni Rhif 5, 2il symudiad

Walton Symffoni Rhif 1, 2il symudiad

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor