Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Nodyn gan Peter Bellingham, Prif Weithredwr

Cyhoeddwyd Dydd Llun 15 Chwefror 2021

Pwy fyddai wedi rhagweld, deg mis ar ôl cyfnod clo cyntaf Covid, y byddem yn dal i fod yn gweithio ac yn byw o dan gyfyngiadau sylweddol. Ym mis Tachwedd, pan oeddwn yn ailasesu ein cynlluniau, roeddwn yn llwyr ddisgwyl y byddai pethau’n dechrau teimlo ychydig yn fwy cadarnhaol yn y flwyddyn newydd. Yn lle hynny, mae fel petai ein bod ni wedi camu’n ôl ychydig fisoedd. Mae straen newydd y feirws yn amlwg wedi cael effaith fawr ar bob agwedd ar ein bywydau, ac nid yw’r celfyddydau wedi’u heithrio o hynny. Unwaith eto, rydym bellach yn wynebu sefyllfa lle mae’n rhaid i ni ganslo cynlluniau ar gyfer perfformiadau yr oeddem yn credu, dri mis yn ôl, y byddent yn debygol o gael eu cynnal. Yn realistig, efallai na fyddwn yn gallu cynnig unrhyw beth tebyg i raglen fyw arferol tan yr hydref.

https://www.youtube.com/watch?v=8_Ev-ZlRq3MAr ôl delio ag ochr weinyddol canslo neu ohirio’r amserlen digwyddiadau a oedd ar y gweill, byddwn bellach yn ystyried sut gallwn barhau i ddarparu rhywfaint o gysylltiad i chi, ein cynulleidfa, â chwaraewyr Sinfonia Cymru. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â’r chwaraewyr i gael eu syniadau ar gyfer prosiectau digidol, a byddwn yn dechrau cynhyrchu deunydd newydd pan fydd rhai o’r cyfyngiadau wedi cael eu codi. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianel YouTube, oherwydd byddwn yn ychwanegu mwy o ddeunydd yn ystod yr wythnosau nesaf. I’r rhai ohonoch sy’n ein dilyn ar Facebook, Twitter neu Instagram, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd diweddariadau ar gael.

Os nad ydych wedi cael cyfle i ymweld â’r wefan eto, mae llawer o wybodaeth yn yr ardal ‘cefn llwyfan’ – proffiliau ‘cyfarfod â’r chwaraewr’, orielau lluniau a dolenni i rywfaint o’n cynnwys sain a fideo. Hefyd, edrychwch ar ein sianel YouTube – fe welwch ddarnau o rai o’n perfformiadau Curate diweddar, ffrwd cyngerdd siambr Richard Strauss o fis Tachwedd (sydd ar gael tan 19 Chwefror) a llawer o ddarnau byr eraill. Argymhellaf yn gryf y gyfres Sgwrsio gyda… a gyflwynir gan Caroline Pether; yn y pedair pennod mae hi’n siarad â’r arweinydd Gábor Takács-Nagy, y cerddorion Roberto Ruisi a Simmy Singh, a’r aelod o’r Bwrdd Simone Willis; mae pob pennod yn taflu goleuni ar waith y pedwar gwestai.

Dyma rai dolenni i’ch helpu i ddechrau arni:

 un o’r darnau o berfformiad Curate Helen Wilson o 2019

 cyngerdd Richard Strauss o 2020, yn cynnwys Capriccio a Metamorphosen

– Caroline Pether yn Sgwrsio gyda… Simmy Singh

Gobeithiaf y byddwch yn archwilio ein gwefan a’n sianel YouTube ac, wrth gwrs, hoffem gael eich barn!

Dymuniadau gorau

Peter Bellingham, a thîm Sinfonia Cymru.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor