Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Byddwn yn perfformio’n fyw eto yr wythnos hon, ond nid oes achos i ddathlu.

Cyhoeddwyd Dydd Gwener 13 Tachwedd 2020

Fe wnaethom berfformio’n fyw eto yr wythnos diwethaf, ond nid oes achos i ddathlu.

Gan Peter Bellingham, Prif Weithredwr, Sinfonia Cymru.

Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Sinfonia Cymru berfformiad byw, yr un cyntaf ers mis Mawrth. Ond er mor braf oedd cael bod ‘nôl yn yr ystafell ymarfer a chlywed cerddoriaeth fyw eto, nid yw’n achos dathlu o gwbl. Camau bach iawn yw’r rhain ar siwrnai dipyn yn fwy.

Yng Nghymru, sydd â’i rheolau ei hun ar gyfer delio â’r pandemig, ni chaniateir perfformio i gynulleidfa gyhoeddus fyw eto, hyd yn oed gan gadw pellter cymdeithasol. Ar gyfer myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru oedd ein cyngerdd – caniateir hynny am ei fod yn gyd-destun addysgol – ac yna cafodd ei ffrydio’n ehangach.

Cyngerdd siambr ydoedd, gyda saith o offerynwyr. Nid oes dim o’i le â hynny. Mae Sinfonia Cymru yn cyflwyno ystod eang ac amrywiol o berfformiadau, ac mae ensembles siambr yn rhan fawr o’n cymysgedd rhaglenni. Ond mae’n disodli prosiect a fyddai wedi defnyddio 21 o gerddorion, felly yn syth rydym yn cyflogi llawer llai o bobl wrth i ni drefnu ein gwaith i gydymffurfio â meini prawf Covid-19. Dyma pam nad oes lle gennym i ddathlu.

Er y bu cael fy rhyddhau o’r ddesg a gallu mwynhau ymarferion a pherfformio eto yn destun boddhad i mi yn bersonol, ac er i’r offerynwyr a gafodd eu cyflogi gael mwynhad aruthrol o’u profiad, rwy’n ymwybodol tu hwnt bod llond gwlad o gerddorion ac artistiaid eraill sydd, fel gweithwyr llawrydd hunangyflogedig, heb gael fawr o waith neu ddim gwaith o gwbl yn ystod yr wyth mis diwethaf. Hefyd, mae llawer ohonynt wedi syrthio rhwng dwy stôl o ran y cynlluniau cymorth amrywiol sydd wedi’u rhoi ar waith. Mae eu gyrfaoedd ar y dibyn. Rwyf wedi siarad â rhai sy’n amau o ddifrif a yw bod yn gerddor llawrydd yn ddewis ymarferol iddynt i’r dyfodol, ac maent yn ystyried rhoi’r gorau iddi. Mae Undeb y Cerddorion yn amcangyfrif bod cynifer â 34% o gerddorion yn ystyried troi cefn ar eu gyrfaoedd.

Fel sefydliad sy’n gweithio’n gyda cherddorion ifanc ym mlynyddoedd cynnar eu gyrfaoedd proffesiynol yn gyfan gwbl, rydym yn teimlo’u hanobaith. Mae’n rhaid i ni obeithio y bydd pethau’n gwella ac y byddwn, cyn hir, yn gallu cyflwyno rhaglen lawn eto i gynulleidfa sy’n talu gyda’r amrywiaeth eang o brosiectau ac ar y raddfa y byddem yn eu cynhyrchu fel arfer. Mae’n rhaid i ni fynd yn ôl i roi gwaith i’r cerddorion ifanc, dawnus hyn eto, ac yn fuan. Bryd hynny fydd gennym achos i ddathlu.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor