Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol | Newyddion

Adolygiad o Metamorphosen / Capriccio Strauss gan John Hardy

Cyhoeddwyd Dydd Iau 19 Tachwedd 2020

Roedd y gerddoriaeth aruchel hon wedi’i chwarae mor berffaith, wedi’i pharatoi a’i chyfleu mor dda, wedi’i deall mor ddwfn, ac mor eithriadol o wefreiddiol, fel na allwn suddo i mewn iddi ac ymdrochi ym moethusrwydd safon mor brin yn y repertoire heriol a thwyllodrus o anodd hwn. Roeddwn mor ymwybodol o fod ym mhresenoldeb mawredd, o ran y cyfansoddwr, yr adeg ofnadwy pryd y creodd y cyfansoddwr galarus y gweoedd gorfoleddus a chariadus o alaw, harmoni cyfoethog a chydadweithio gwrthbwyntiol diddiwedd, a’r lefel uchel o berfformio gan y seithawd llinynnol benywaidd hwn a oedd wedi’i ffurfio a’i gydbwyso’n berffaith, fel fy mod yn gwybod bod rhaid i mi aros yn effro, a thystio i’r pŵer oedd yn dod i’r amlwg ar lwyfan Dora Stoutzker.

Mae’r Chwechawd Capriccio o opera hwyr Strauß, Capriccio [‘Testun Sgwrs ar gyfer Cerddoriaeth’], yn wên o glust i glust ac yn llawn ôl-gyfeiriadau at gyfnod mwy dedwydd. Mae parau o feiolinau, fiolâu a sieloau yn teimlo fel eu bod yn ensemble mor fawr ag y gellid ei ddymuno i fynegi’r ystod enfawr o emosiynau gwibiol yn y gwaith arbenigol hwn o fedrusrwydd rhamantaidd hwyr a gwresogrwydd cariadus.

Siaradodd yr Arweinydd, Caroline Pether, yn angerddol ac yn wybodus yn ystod y cyngerdd am bŵer a pherthnasedd y Chwechawd, a’r Metamorphosen hyd yn oed yn fwy, i’n hoes ni.

Cyhoeddodd Strauß y gwaith olaf hwn ar raddfa fawr [bron 30 munud o fotiffau sy’n esblygu, yn troelli, yn troi ac yn dychwelyd yn ddiddiwedd, wedi’u trin yn syfrdanol o fedrus gan hen gyfansoddwr yn ei bedwar ugeiniau cynnar] yn ei fersiwn fel gwaith ‘ar gyfer 23 o linynnau unawdol’ – sydd fel arfer yn gofyn am arweinydd, ac sydd mor heriol o ran cydlynu a manwl diwnio fel ei bod yn anarferol, ond nad yn amhosibl, clywed perfformiad byw sy’n llwyddo i aros mewn tiwn yr holl amser.

Ond ymhlith ysgrifau Strauß, canfuwyd fersiynau ar gyfer seithawd a hefyd ar gyfer 11 o linynnau, ac mae’r cyntaf o’r rhain wedi cael ei olygu’n wych a’i gyhoeddi ar gyfer y perfformiad hwn gan Rudolph Leopold. Mae’r ansoddau teneuach, mwy disglair, a’r ddeialog ffiligri gain rhwng saith chwaraewr yn unig, yn cyfleu effaith emosiynol enfawr, a hefyd ymdeimlad o drueni am y distryw a’r drygioni aruthrol a ddaeth yn sgil y gyfundrefn Natsïaidd. Bu farw Hitler, a thawodd y rhyfel yn Ewrop, bythefnos yn unig ar ôl i’r datganiad dynol rhyfeddol hwn gael ei gwblhau.

Fe’ch anogaf i wrando ar hwn – sawl gwaith os gallwch – a chaniatáu i’r agweddau niferus dreiddio i mewn i chi, ac i’ch enaid blinedig chi dreiddio i mewn iddo ef, fel bath cynnes ar ddiwedd diwrnod hir a diddorol.

Gwyliwch yma:  https://www.rwcmd.ac.uk/events/2020-11/sinfonia-cymru

John Hardy, Pennaeth Cyfansoddi, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor