Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Simmy Singh yn ymuno â Bwrdd Sinfonia Cymru

Cyhoeddwyd Dydd Llun 23 Tachwedd 2020

Mae Sinfonia Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad Simran (Simmy) Singh i’w Fwrdd. Bu Simmy yn aelod cyson o’r gerddorfa dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Simmy yn mwynhau gyrfa amrywiol fel feiolinydd clasurol a thraws-genre; mae’n Arweinydd Cerddorfa Kaleidoscope ac yn gyd-sylfaenydd Manchester Collective. Cafodd ei magu yn Llandybie, a’i mam wnaeth ddysgu Simmy i ganu’r feiolín cyn iddi fynd ymlaen i astudio yn Ysgol Gerdd Chetham a Choleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr. Yn ystod ei chyfnod yn Sinfonia Cymru, yn ogystal â chyngherddau cerddorfaol, cymerai ran yn gyson mewn prosiectau traws-genre, gan gynnwys Birdsong / Cân yr Adar gyda’r gantores ‘soul funk’ Kizzy Crawford a’r pianydd jazz Gwilym Simcock, a Close to Folk a oedd yn cynnwys cerddorion Sinfonia Cymru ochr yn ochr â’r band cerddoriaeth byd, Kabantu.

Ar hyn o bryd mae Simmy yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn yr haf 2021, bydd Simmy’n dychwelyd fel artist gwadd i arwain prosiect, gyda’i chwaer Rakhi, mewn rhaglen sy’n archwilio’u hetifeddiaeth Gymreig ac Indiaidd a dylanwadau eraill ar eu siwrneiau cerddorol.

Dywed y Prif Weithredwr, Peter Bellingham: “Bydd Simmy yn ychwanegiad da at ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Fe ddaw â safbwynt unigryw fel aelod diweddar o’r gerddorfa, yn ogystal â’i phrofiad a’i syniadau o weithio gyda chynifer o ensembles cerdd eraill.”

Cewch wybod mwy am Simmy Singh yn y bennod nesaf o gyfres ddiweddaraf Sinfonia Cymru In Conversation. Mae arweinydd Sinfonia Cymru, Caroline Pether, yn siarad â Simmy am ddylanwad Sinfonia Cymru ar ddatblygiad ei gyrfa, ac yn benodol am amrywiaeth y prosiectau y bu’n gysylltiedig â nhw. Bydd y bennod yn cael ei dangos gyntaf ddydd Mawrth 24 Tachwedd am 6.30pm ar Facebook ac YouTube.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor