Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Sinfonia Cymru yn Dathlu 25 Mlynedd Gyda 25 Cyngerdd

Cyhoeddwyd Dydd Llun 14 Medi 2020

Mae Sinfonia Cymru yn lansio ei thymor 2020-21 gyda gwefan newydd sbon a chyfres o sgyrsiau ar-lein, a bydd y gerddorfa’n cymryd ei chamau cyntaf yn ôl i gyngherddau byw yn 2021 gyda pherfformiadau ledled Cymru i ddathlu 25 mlynedd.

  • Bydd Sinfonia Cymru yn dathlu 25 mlynedd a dychweliad i berfformiadau byw yn 2021 gyda 25 perfformiad ledled Cymru trwy’r Daith Neuaddau Pentref yn Bennaf [Haf 2021].
  • Bydd y trympedwr syfrdanol Lucienne Renaudin Vary yn ymuno â’r gerddorfa ar gyfer pedwar cyngerdd Hanesion Trymped Ffrengig [18-21 Mawrth 2021]
  • Dewch i adnabod cerddorion, artistiaid a ffrindiau Sinfonia Cymru trwy sioe sgwrsio ar-lein, Sgwrsio gyda…, a gyflwynir gan yr arweinydd Caroline Pether.
  • Archwiliwch berfformiadau digidol gan gerddorion Sinfonia Cymru gartref trwy’r gyfres Cerddorion yn y Cyfnod Clo.
  • Bydd Sinfonia Cymru yn lansio gwefan newydd sinfonia.cymru/cy

Dywedodd y Prif Weithredwr, Peter Bellingham,

“Does dim dwywaith bod y pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i’n diwydiant. Ond un o’r pethau cadarnhaol sydd wedi dod ohono yw bod pobl wedi ailddarganfod pwysigrwydd cymunedau. Yn Sinfonia Cymru, mae ein gwaith mewn cymunedau gwledig wastad wedi bod yn bwysig i ni – er enghraifft, ein cyngherddau cerddorfaol rheolaidd ym Mhontyberem. I nodi ein 25 ain mlynedd, ac fel cerddorfa broffesiynol ar gyfer Cymru, rydym yn datblygu’r elfen honno o’n gwaith gyda chyfres o 25 o gyngherddau bach rhad ac am ddim mewn lleoliadau gwledig ledled Cymru yn Y Daith Neuaddau Pentref yn Bennaf.”

Mae’n mynd ymlaen i ddweud,

“Wrth baratoi ar gyfer ein dathliadau y flwyddyn nesaf, rydym wedi lansio gwefan newydd hefyd, sy’n galluogi pobl i fwynhau amrywiaeth o berfformiadau digidol o’u cartrefi, edrych yn ôl ar ddeunydd o’n harchifau, a manteisio ar lawer o ffyrdd i gael gwybod mwy am ein cerddorion ifanc dawnus.”

Perfformiadau Digidol

Yr hydref hwn, bydd Sinfonia Cymru yn cyflwyno cyfres ar-lein newydd sbon o’r enw Sgwrsio gyda… [yn dechrau 22 Medi 2020] – cipolwg treiddgar ar gerddorion, artistiaid a ffrindiau Sinfonia Cymru. Bydd Arweinydd y Gerddorfa, Caroline Pether, yn gweithredu fel cyflwynydd sioe sgwrsio mewn cyfres o sgyrsiau gyda’r arweinydd Gábor Takács-Nagy, cerddorion Sinfonia Cymru, sef Simmy Singh a Roberto Ruisi, a’r aelod o’r bwrdd, Simone Willis.

Bydd y gyfres ar-lein Cerddorion yn y Cyfnod Clo yn parhau, lle mae aelodau Sinfonia Cymru wedi creu perfformiadau digidol o’u cartrefi gan ddathlu rhai o’r artistiaid mwyaf eiconig ym myd cerddoriaeth, yn ogystal ag enghreifftiau o’r gerddoriaeth orau o Gymru. Yn dilyn llwyddiant Can’t Stop – ailwampio cân y Red Hot Chili Peppers, bydd ein cerddorion yn dathlu eicon cerddorol arall trwy I Say a Little Prayer gan frenhines canu’r enaid, Aretha Franklin, yn ogystal â’r hen glasur Gymraeg, Sosban Fach.

Perfformiadau Byw

Mae Sinfonia Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y gerddorfa’n cymryd ei chamau cyntaf yn ôl i berfformio’n fyw y flwyddyn nesaf. Mae’r dyddiadau ar gyfer digwyddiadau Sinfonia Cymru yn 2021 yn y calendr. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys:

  • Cadwch lygad am hwn: Bydd Sinfonia Cymru yn dathlu 25 mlynedd trwy’r Daith Neuaddau
    Pentref yn Bennaf [Haf 2021], lle y bydd cerddorion Sinfonia Cymru yn perfformio 25 o gyngherddau bach mewn trefi a phentrefi ledled Cymru.
  • Cadwch y Dyddiad: Ym mis Mawrth, bydd hyfedredd cerddorfaol yn cyfarfod â strydoedd jazz Ffrainc yn Hanesion Trymped Ffrengig [18-21 Mawrth 2021]. Bydd Sinfonia Cymru yn perfformio yng RWCMD (Nghaerdydd), Neuadd Goffa Pontyberem, Hafren (Drenewydd) a Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug), gyda’r trympedwr syfrdanol Lucienne Renaudin Vary.  Bydd Lucienne, sy’n un ar hugain oed, yn arwain Sinfonia Cymru gyda rhaglen fywiog yn cynnwys cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan jazz, o Goncerto Trymped Hummel i Je ne t’aime pas gan Weill.
  • Cadwch y Dyddiad: Bydd Curate, sef cyfres lle mae cerddorion Sinfonia Cymru yn creu eu cyngherddau eu hunain, yn dechrau cyfnod preswyl yn Chapter, Caerdydd. Bydd cyngerdd Caroline Pether Spiritual Borderlands [25 Mawrth 2021] yn eich gwahodd i neilltuo amser i’r ysbrydol, tra bydd Ali Vennart yn archwilio’r Endangered [29 Ebrill 2021]. Mwynhewch y pethau syml mewn bywyd gydag Enchant gan Steph Tress [20 Mai 2021] sy’n rhan o ŵyl Bro Morgannwg. Mae rhan olaf y gyfres, a grëwyd gan Gideon Brooks a Danny Vassallo, yn dathlu perthnasoedd gyda Two Nations Tango [1 Gorffennaf 2021].
  • Cadwch lygad am hwn: Bydd Sinfonia Cymru yn ymuno ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gyflwyno Diwrnod yn yr Amgueddfa [8 Ebrill] – diwrnod perffaith i’r teulu ddarganfod cerddoriaeth a chelf gyda’i gilydd. Bydd Sinfonia Cymru yn parhau â’i chyfres o gyngherddau amser cinio yng Nglan yr Afon, gyda’r Pedwarawdau Piano [3 Chwefror 2021], y Pedwarawdau Llinynnol: Schumann a Haydn [7 Ebrill 2021] a Cherddoriaeth ar gyfer Cyfeillion: Dathlu Stravinsky [7 Gorffennaf 2021].

Y cam nesaf fydd gweithio gyda lleoliadau a dilyn canllawiau’r llywodraeth yn ofalus i sicrhau bod digwyddiadau tymor 2020-21 yn cael eu gwireddu.

Cadwch lygad! Bydd gwybodaeth am docynnau’n cael ei rhyddhau maes o law.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor