Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Sgwrsio gyda Gábor Takács-Nagy

Cyhoeddwyd Dydd Mercher 9 Medi 2020

Mae arweinydd Sinfonia Cymru, Caroline Pether, yn troi’n gyflwynydd sioe sgwrsio mewn cyfres o sgyrsiau gyda detholiad o artistiaid a ffrindiau Sinfonia Cymru. Mae’r arweinydd Gábor Takács-Nagy, cerddorion Sinfonia Cymru, sef Simmy Singh a Roberto Ruisi, a’r aelod o’r bwrdd, Simone Willis, yn trafod pleser creu cerddoriaeth, yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant a’r nodweddion sy’n angenrheidiol i fod yn gerddor clasurol. 

Gábor Takács-Nagy 

Mae arweinydd Sinfonia Cymru, Caroline Pether, yn siarad â’r arweinydd gwadd o Hwngari, Gábor Takács-Nagy, am ddylanwad ei yrfa cerddoriaeth siambr ddisglair ar ei ddull arwain, a chymaint y mae’n hoffi gweithio gyda cherddorion ifanc. 

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor