Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Yn frwd i rannu ein cerddoriaeth unwaith eto

gan Peter Bellingham, Brif Weithredwr
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 28 Gorffennaf 2020

Does dim amheuaeth bod y cyfnod clo ledled y byd wedi bod yn un o gyfnodau mwyaf heriol ein gyrfaoedd i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio yn y celfyddydau, boed yn artistiaid neu’n weinyddwyr. Yn anffodus, mae’n edrych yn annhebygol iawn y byddwn ni’n gallu dychwelyd i berfformiadau byw yn ystod 2020. Ond rydyn ni’n gobeithio dod yn ôl y flwyddyn nesaf, ac yn y cyfamser, mae gennym gyfres o berfformiadau digidol i chi ei mwynhau yng nghysur eich cartref eich hun.

Diben craidd Sinfonia Cymru yw rhoi’r dechrau gorau posibl i gerddorion clasurol ifanc mwyaf talentog y Deyrnas Unedig yn eu gyrfaoedd proffesiynol, a rhannu eu gwaith cerddorol rhagorol â chynulleidfaoedd ledled Cymru, ac weithiau y tu hwnt. Bydd y gwaith hwn yn bwysicach fyth bellach, gan fod y Coronafeirws wedi effeithio’n arbennig ar gerddorion ifanc.

Gweithwyr llawrydd yw pob un o’n chwaraewyr, ac maen nhw’n gweithio i lawer o sefydliadau gwahanol, fel arfer trwy gymysgedd o berfformiadau byw, recordiadau ac addysgu. Mae llawer ohonyn nhw wedi syrthio trwy’r bylchau yn y cynlluniau cymorth hunangyflogaeth, ac i rai, mae hyn wedi gwneud iddyn nhw ailwerthuso p’un ai yw gyrfa fel cerddor cerddorfaol yn un hyfyw. Gorau po gyntaf y gallwn ni ddechrau cyflogi’r bobl ifanc dalentog hyn eto.

Mae rhai yn dweud bod pob busnes yn yr un sefyllfa ac nad yw’r celfyddydau’n wahanol; fodd bynnag, mae cyfyngiadau llym y llywodraeth yn gosod rhai heriau mawr i’n diwydiant, fel:

  1. Roedd lleoliadau cerddoriaeth a theatr ymhlith y busnesau cyntaf i gau a’r rhain fydd ymhlith yr olaf i ailgychwyn;
  2. Ar y llwyfan, mae’n debygol y bydd y gofynion pellhau llymach ar gyfer offerynnau chwyth, offerynnau pres a chantorion, a hyd yn oed llinynnau, yn golygu bod rhai perfformiadau yn amhosibl mewn lleoliadau a neuaddau cymunedol llai;
  3. O ran awditoria, mynegwyd pryderon yn eang ynghylch hyfywedd ariannol yn sgil capasiti llai, ond un sut fydd y profiad, i artistiaid a chynulleidfaoedd, mewn neuaddau â hanner y seddau’n wag?

Mae’n codi’r cwestiwn canlynol – pam mae gofynion cadw pellter cymdeithasol mor anghyson? Gall teithwyr eistedd mewn awyren, mewn lle cyfyng, am gyfnodau hir heb fesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith; ond gosodir gofynion gwahanol ar awditoria mawr.

Yn wyneb adfyd, mae llawer o sefydliadau’n dod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o gefnogi ein cerddorion, a chadw ein diwydiant ar waith, a chadw perfformiadau’n fyw.
Felly, beth sydd gan Sinfonia Cymru i’w gynnig yn ystod y misoedd nesaf? Ar y wefan newydd hon, gallwch brofi Musicians in Lockdown, sy’n cynnwys ein fersiwn pedwarawd llinynnol o gân Can’t Stop Red Hot Chili Peppers. Byddwn yn ychwanegu at hyn yn fuan gyda chân eiconig Aretha Franklin, Say A Little Prayer. Hefyd, gallwch chi edrych yn ôl ar rai o’n perfformiadau Curate o 2019; a chlywed detholiadau o People, Planet, Profit gan Helen Wilson a ysbrydolwyd gan her yr hinsawdd, a MotherTongue gan Abel Selaocoe sydd â dylanwadau Affricanaidd.

Yn nes ymlaen yn yr hydref, byddwn yn lansio cyfres ddigidol newydd In Conversation, gydag arweinydd Sinfonia Cymru, Caroline Pether, yn ymgymryd â rôl gwesteiwr sioe siarad; bydd ei gwesteion yn cynnwys yr arweinydd Gábor Takács-Nagy, y feiolinyddion Simmy Singh a Roberto Ruisi, a Simone Willis, sy’n aelod o’r bwrdd.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n bwriadu ailgychwyn perfformiadau byw yn 2021 gyda rhai unawdwyr cyffrous, a byddwn yn dathlu ein blwyddyn pen-blwydd yn 25 oed! Dyma ragflas yn unig o’r hyn sydd i ddod, a byddwn ni’n cyhoeddi mwy o’n cynlluniau ddechrau mis Medi, felly cadwch lygad am newyddion pellach.

Mae ein cerddorion ifanc talentog yn awyddus dros ben i berfformio i chi eto, ac rydyn ninnau’n awyddus i rannu ein cerddoriaeth â chi. Yn y cyfamser, os hoffech chi gyfrannu at gefnogi’r cerddorion a’u datblygiad, mae gennym fotwm newydd ‘Cyfrannwch Rodd’ ar ein gwefan yn aros i gael ei glicio!

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor