Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

O Steely Dan i Mahler 2

Cyhoeddwyd Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2020

Pryd ddechreuaist di chwarae dy offeryn?

Pan oeddwn i’n 12 oed.

Wyt ti’n chwarae offeryn arall?

Ynghyd ag aelodau eraill y teulu Clarinét (Bas ac Eb), rydw i hefyd yn chwarae’r sacsoffon.

Ble astudiaist di?

Fe wnes i fy ngradd israddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a fy ngradd ôl-raddedig yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol.

Pryd chwaraeaist di gyntaf gyda Sinfonia Cymru?

Fe chwaraeais i gyda Sinfonia Cymru am y tro cyntaf yn 2017.

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru?

Rydw i’n hoffi’r amrywiaeth o wahanol brosiectau mae Sinfonia Cymru yn eu cyflwyno, o operâu llawn a chyfresi cerddorfaol i ddeuawdau a thriawdau. Ond nid dim ond y graddfeydd amrywiol; mae prosiectau Sinfonia Cymru yn rhychwantu cynifer o wahanol genres ac arddulliau cerddorol, felly mae pob cyngerdd yn brofiad unigryw.

Ond rhaid i mi ddweud, efallai’r peth gorau am weithio gyda Sinfonia Cymru yw’r cydweithwyr arbennig rydych chi’n gweithio gyda nhw a’r ffrindiau da rydych chi’n eu gwneud ar hyd y ffordd.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru?

Mae hwnnw’n gwestiwn anodd i’w ateb. Fel y soniais, mae pob prosiect yn brofiad unigryw, ond mae ein perfformiad o Tosca yng Ngŵyl Abu Dhabi yn eithaf uchel ar y rhestr. Mae’r Te Deum ar ddiwedd yr act gyntaf yn rhyfeddol, yn enwedig gyda chôr mawr a Bryn Terfel yn canu Scarpia!

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall?

Un arall anodd! Roeddwn i’n ffodus o fod yn rhan o berfformiad o Mahler 8 yn y Proms ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae graddfa’r darn hwnnw’n syfrdanol. Efallai un o’r perfformiadau mwyaf cofiadwy y bûm yn rhan ohono oedd perfformio Tanz/Haus gan James Dillon yng Ngŵyl Transit. I mi, mae’n ddarn rhyfeddol sydd wir yn eich cludo i rywle arall, ac mae’n eich draenio’n emosiynol fel perfformiwr. Yn ffodus, gan fod yr ŵyl mewn tref yng Ngwlad Belg sy’n enwog am fragdai, roedd modd cael adfer yn ddigon rhwydd.

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol?

Y bobl, unwaith eto. Mae gan bawb safbwynt ychydig yn wahanol ar bethau, ac maen nhw wedi dod o gefndiroedd gwahanol ac wedi cael profiadau gwahanol. Mae’n wych cael treulio amser gyda phawb. Os gallwch chi weithio’n galed gyda’ch gilydd, perfformio cyngerdd gwych ac yna eisiau cymdeithasu â’ch gilydd ar ei ôl, mae hynny’n eithaf da yn fy marn i!

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw?

Rydw i’n chwarae gyda nifer o wahanol gerddorfeydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, sy’n llawer o hwyl. Dyna’r prif beth mewn gwirionedd, ond dwi’n dwli cael y cyfle i chwarae cerddoriaeth siambr gyda fy nhriawd a’m grwpiau eraill.

Beth yw dy hoff dri darn o gerddoriaeth, a pham?

Byddwn i’n rhoi atebion ychydig yn wahanol i’r cwestiwn hwn petawn i’n chwarae neu’n gwrando, am wn i. Dyma fy nhri hoff ddarn i wrando arnyn nhw.

Mae pedwerydd symudiad (Urlicht) Mahler 2 yn fy llorio bob tro. Mae popeth amdano mor brydferth a thorcalonnus ar yr un pryd.

Dwi’n dychwelyd i recordiad Artie Shaw o Stardust eithaf tipyn. Dyna un o’r prif resymau pam dwi’n chwarae’r clarinét. Fy Nhad-cu roddodd fy offeryn cyntaf i mi ac Artie Shaw oedd ei hoff glarinetydd. Mae’r chwarae’n rhyfeddol ac mae’n teimlo’n eithaf personol hefyd.

Rydw i’n ffan fawr o Steely Dan a dwi wir ddim yn gwybod faint o weithiau dwi wedi ailweindio solo sacsoffon Wayne Shorter ar eu cân Aja i’w glywed eto. Mae’n rhaid i’r darn hwn fod yn y tri uchaf dim ond oherwydd cynifer o weithiau dwi wedi gwrando arno!

 

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor