Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Artistiaid gwestai

Beth yw’r cynhwysion gorau i greu cerddoriaeth?

Cyhoeddwyd Dydd Sul 19 Gorffennaf 2020

Mae Gábor wedi bod yn arweinydd dylanwadol i Sinfonia Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n mynd i’r afael ag arwain o safbwynt cerddoriaeth siambr, gan ddod â’i flynyddoedd o brofiad fel sylfaenydd Pedwarawd Takács i’r broses ymarfer. Rydyn ni’n dwli gweithio gydag ef – ac mae’n debyg ei fod ef yn teimlo’r un fath!

“Mae gan Sinfonia Cymru yr holl elfennau sydd bwysicaf i mi wrth greu cerddoriaeth: ymroddiad llwyr, brwdfrydedd, didwylledd, creadigrwydd ac ansawdd uchel. Mae’n bleser pur bod gyda nhw bob amser.” meddai Gábor Takács-Nagy.

Mae Gábor Takács-Nagy yn cael ei ystyried yn un o ddehonglwyr cyfoes mwyaf dilys cerddoriaeth Hwngaraidd ac, yn arbennig, cerddoriaeth Béla Bartok. Ym mis Mawrth 2017, dyfarnwyd Gwobr fawreddog Béla Bartok-Ditta Pasztory iddo. Yn 2002, gan ddilyn hir draddodiad cerddorol Hwngaraidd, trodd Gábor Takács-Nagy at arwain. Mae ei rolau wedi cynnwys: Cyfarwyddwr Cerddorol Weinberger Kammerorchestra, Cerddorfa Siambr Gŵyl Verbier a Cherddorfa Symffoni MAV Bwdapest. Ers mis Medi 2011, ef yw Cyfarwyddwr Cerddorol Camerata Manceinion ac, ym mis Medi 2012, fe’i henwyd yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Gŵyl Bwdapest.

Ym mis Ionawr 2013, fe’i henwebwyd yn Brif Bartner Artistig Cerddorfa Siambr Iwerddon. Fe’i gwahoddir yn rheolaidd i arwain yr Orchestre National de Lyon, y Gerddorfa Philharmonique de Monte Carlo, y Gerddorfa Filarmonica de Bologna, l’Orchestre de l’Opéra de Toulon, Cerddorfa Ffilharmonig Malaysia, Cerddorfa Ffilharmonig Calgary, Cerddorfa Symffoni Bilkent, Cerddorfa Symffoni Bwdapest, Cerddorfa Dijon-Bourgogne, Cerddorfa Siambr Franz Liszt, yr Orchestre de Chambre de Lausanne, yr Orchestre de Chambre de Genève a Cherddorfa Symffoni Detroit, ymhlith eraill.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor