Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Ein cerddorion

Mae ’na deimlad o ryddid llwyr yn y gerddoriaeth rydyn ni’n ei chreu

Cyhoeddwyd Dydd Sadwrn 20 Mehefin 2020

Pryd ddechreuaist di chwarae dy offeryn?

Fe ddechreuais i chwarae pan oeddwn yn 6 oed yn rhaglen hyfforddi llinynnau Iau y Guildhall yn Llundain. Fe ddangoson nhw’r holl offerynnau llinynnol i ni a chefais fy nenu’n syth at sain gyfoethog y fiola.

Wyt ti’n chwarae offeryn arall?

Pan ddechreuais i, roeddwn i’n astudio’r fiola a’r gitâr glasurol yn gydradd, ond rhoddais y gorau iddo i ganolbwyntio ar y fiola pan oeddwn i tua 10 oed.

Ble astudiaist di?

Fe wnes i fy ngraddau israddedig a meistr yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall.

Pryd chwaraeaist di gyntaf gyda Sinfonia Cymru?

Fe ddechreuais i chwarae gyda Sinfonia Cymru gyntaf yn 2016. Roedd y prosiect gyda Phedwarawd Fitzwilliam yng Ngŵyl Gerdd y Gelli, ac roeddwn i wrth fy modd. Roedd yn fwy cofiadwy fyth i mi oherwydd torrodd fy nghar i lawr yng nghanol Swydd Gaerloyw ar y ffordd adref…

Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio gyda Sinfonia Cymru?

Dwi’n dwli ar gymaint o bethau am weithio gyda Sinfonia Cymru. Mae ’na deimlad o ryddid llwyr yn y gerddoriaeth rydyn ni’n ei chreu ac mae fel chwarae mewn grŵp cerddoriaeth siambr estynedig. Mae hefyd mor braf gweithio i sefydliad sydd wir yn poeni am ein lles fel unigolion ac yn rhoi cyfleoedd i ni, y chwaraewyr, ddatblygu a dangos ein creadigrwydd unigol. Mae’n arwain at deimlad cryf o undod ymhlith y gerddorfa; mae’n teimlo fel petai’r hyn rydyn ni’n ei wneud a’r gerddoriaeth rydyn ni’n ei chreu yn bwysig i ni i gyd. Mae hynny’n arbennig iawn.

Beth yw dy hoff atgof o Sinfonia Cymru?

Dwi’n credu mai fy hoff atgof o Sinfonia Cymru hyd yma yw lansio ein taith o Birdsong/Cân yr Adar yn ôl yn 2018. Prosiect ar y cyd ydoedd gyda SC, Gwilym Simcock a Kizzy Crawford. Roedd yn gymaint o hwyl ac yn wych i weithio’n fyrfyfyr mewn ffordd gwbl wahanol. Roedd yn teimlo fel petaen ni wir yn dod â’r gerddoriaeth yn fyw wrth ei pherfformio bob tro.

Beth yw dy hoff atgof cerddorol arall?

Dwi’n credu mai un o’m hoff atgofion yw Sbaen gyda’r Ensemble Vindeleia. Grŵp cyfunol ydyw sy’n dod â chyngherddau cerddoriaeth siambr o ansawdd uchel i bentrefi gwledig yn ardal La Rioja o Sbaen. Rydyn ni’n treulio wythnos yn ymarfer ac yna’n perfformio cyfres o 3 neu 4 cyngerdd mewn gwahanol bentrefi yn yr ardal. Mae’n anghyffredin cael cyfle i dreiddio mor ddwfn i waith. Mae’r fraint o gael wythnos gyfan i ymarfer un neu ddau ddarn yn rhyfeddol ac yn golygu ein bod ni’n gallu archwilio’r gwaith mewn ffordd gwbl wahanol. Anaml iawn mae’r pentrefi lle rydyn ni’n chwarae yn clywed cerddoriaeth glasurol yn cael ei pherfformio’n fyw, ac mae pobl yn dod o bob cwr i wasgu i mewn i’r eglwysi bach i wrando arnon ni. Mae’r bobl rydyn ni’n cyfarfod â nhw yno mor garedig i ni ac mor werthfawrogol o’r hyn rydyn ni’n ei wneud; mae’n brofiad mor arbennig. Rydyn ni i gyd yn aros yn yr un tŷ ac mae pobl o’r pentref yn dod â bwyd i ni neu’n ein gwahodd i’w tai nhw i gael cinio neu bryd nos. Mae llawer o’r bobl dwi wedi cyfarfod â nhw yn y pentrefi hynny yn teimlo fel ffrindiau go iawn er nad ydyn ni’n siarad yr un iaith.

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gerddor proffesiynol?

Dwi’n credu mai’r peth gorau am fod yn gerddor proffesiynol yw gallu gweithio a chwarae gyda phobl eraill. Rydyn ni’n dysgu oddi wrth ein gilydd drwy’r amser ac mae’r cyfathrebu sy’n rhan annatod o’n cerddoriaeth yn golygu bod modd ffurfio cysylltiad gyda rhywun cyn i chi hyd yn oed dorri gair â’ch gilydd.

Pan nad wyt ti’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, pa gerddorfeydd, ensembles neu brosiectau eraill wyt ti’n ymwneud â nhw?

Pan nad ydw i’n chwarae gyda Sinfonia Cymru, rydw i’n chwarae gyda Phedwarawd Gildas ac ar fy liwt fy hun o amgylch Llundain a’r Deyrnas Unedig.

Beth yw dy hoff dri darn o gerddoriaeth, a pham?

Mae’n amhosibl dewis fy nhri hoff ddarn o gerddoriaeth erioed, ond dyma dri darn dwi’n dychwelyd iddynt dro ar ôl tro…

 

  1. Entrée de Polymnie gan Rameau o Les Boréades (Act 4)

 

Mae’n odidog. Dwi’n dwli ar ohiriant da ac mae’r darn hwn yn cynnwys rhai o’r gohiriannau mwyaf epig erioed. Mae’r rhan Basŵn yn arbennig o ryfeddol.

 

  1. Yr Adagio o bedwarawd llinynnol Haydn Op 76 Rhif 1

 

A bod yn onest, gallai unrhyw rai o symudiadau araf (neu, yn wir, pedwarawdau cyfan) Haydn fod ar fy rhestr o dri, ond mae’r un yma wedi bod yn troi yn fy mhen yn ddiweddar. Mae’n berffaith. Mae’r cyfansoddi llais mewnol heb ei ail, ac mae’n siŵr bod y ffaith bod gennyf atgofion melys iawn o chwarae’r pedwarawd penodol hwn yn helpu hefyd. Os hoffech chi wrando arno, byddwn i’n argymell recordiad gan Quatuor Mosaïques.

 

  1. Verklärkte Nacht gan Schoenberg.

 

Mae’r darn hwn yn wirioneddol epig ac yn llawn cyfansoddi cromatig hynod gyfoethog. Fe’i hysbrydolwyd gan gerdd Richard Dehmel o’r un enw, a dwi’n credu bod y gerddoriaeth yn adlewyrchu’r gerdd yn berffaith. Mae’n mynd i fyny ac i lawr yn emosiynol; mae’r trawsnewidiad o dywyllwch a chynnwrf i oleuni a rhyddhad yn gymaint o daith. Yn fy marn i, mae hwn yn enghraifft o ddarn y mae’n amhosibl peidio â theimlo’n rhan ohono wrth wrando neu chwarae, mae mor ddynol.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor