Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Perfformiad digidol

Cerddorion yn y Cyfnod Clo

Sinfonia Cymru yn perfformio Can’t Stop gan Red Hot Chili Peppers
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 7 Ebrill 2020

Mae ein cerddorion yn dathlu artistiaid eiconig y byd cerddoriaeth, yn ogystal â rhai o’r enghreifftiau gorau o gerddoriaeth Gymreig.

Ydych chi wedi bod yn meddwl tybed beth mae ein cerddorion wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod clo? Er na allwn ni chwarae’n fyw nawr, fe allwch chi gael blas ar Sinfonia Cymru o hyd. Rydyn ni wedi bod yn dathlu rhai o artistiaid eiconig y byd cerddoriaeth, yn ogystal â rhai o’r enghreifftiau gorau o gerddoriaeth Gymreig. Mwynhewch ein perfformiadau diweddaraf ar-lein.

Rhaglen

  1. Red Hot Chili Peppers arr. Ali Vennart Can't Stop
  2. Aretha Franklin arr. Ali Vennart I Say a Little Prayer
  3. Arrangement by Rakhi and Simmy Singh Sosban Fach

 

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch y rhestr chwarae hon gartref, pryd bynnag y bo’n gyfleus. Os ydych yn mwynhau’r rhestr chwarae, curwch eich dwylo. Gallwch wisgo i fyny neu i lawr ar gyfer yr achlysur.

Dewch â’ch diod eich hun!

Yn mwynhau ein fideos? Rhannwch gyda ni @SinfoniaCymru #SinfoniaCymru

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor